PET(4)-07-11 p9a
P-03-306 Achub Theatr y Barri
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddiogelu a chadw’r Theatre Royal yn y Barri er mwyn gallu parhau i ddatblygu a defnyddio’r adeilad fel theatr, sinema a chanolfan gelfyddydol a diwylliannol ar gyfer y gymuned.
Cyflwywyd y ddeiseb gan: Ymddiriedolaeth y Celfyddydau a’r Sinema yn y
Theatre Royal
Y dyddiad yr ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro
cyntaf: Tachwedd 2010
Nifer y deisebwyr: 142
Gwybodaeth ategol:
Bu’r Theatre Royal yn rhan ganolog o gymuned y Barri ers 1910. Caewyd y drysau ar 10 Ebrill 2008, pan ddaeth y brydles i ben. Ers hynny, mae’r theatr wedi bod yn wag.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae Ymddiriedolaeth y Celfyddydau a’r Sinema yn y Theatre Royal (TRACT) wedi ymgyrchu’n ddygn i geisio ailagor y sinema. Arweiniodd yr ymdrechion hyn at gais i brynu’r adeilad am bris y farchnad yn 2009. Yn anffodus, gwrthodwyd y cynnig hwn, ac mae’r adeilad yn parhau i fod yn wag, gyda’i ffenestri dan goed.
Gwnaed datganiad ar ran Hafod Housing ynghylch y posibiliad o ailddatblygu’r safle fel cyfleuster Extracare, cynllun a wrthwynebwyd yn ffyrnig yn y gymuned. Fodd bynnag, hyd y gwyddom, ni chyflwynwyd unrhyw gais cynllunio perthnasol.
Agorwyd y Theatre Royal yn 1910. Darparodd y theatr wasanaeth pwysig i’r gymuned, yn wreiddiol yn theatr berfformio a oedd yn llwyfannu ystod eang o sioeau adloniant gan gwmnïau lleol a theithio. Roedd y 1930au yn gyfnod pontio i’r theatr, wrth i’r defnydd ohoni newid o’r byd llwyfan i’r byd sinema. Mae uchafbwyntiau hanesyddol yr adeilad yn cynnwys ymweliadau yn ystod y 1900au gan y Cadfridog Booth, arweinydd Byddin yr Iachawdwriaeth, a diddanwr o’r enw Samson, sef dyn cryfaf honedig y byd.
Roedd cysylltiadau lleol y theatr yn cynnwys Victor Sylvestor, organydd a chyfarwyddwr cerddorol y theatr ar ddiwedd y 20au ac ar ddechrau’r 30au. Mae un o wŷr busnes y dre heddiw yn ddisgynnydd o deulu Mr Sylvester. Ym 1910, rhoddwyd y dasg o ddylunio llenni hysbysebu’r theatr i Mr Leon Hook, arlunydd arwyddion. Mae busnes teuluol Mr Hook, sef busnes dylunio arwyddion, bellach yn ei bedwaredd genhedlaeth yn y dre.
Mae’r Theatre Royal yn hŷn na neuadd goffa’r dre. Ymhlith y rhannau hynny o’r theatr sy’n parhau i fodoli y mae’r llwyfan, y prosceniwm, yr ystafelloedd newid, a’r coridorau tanddaearol. Mae’n bosibl bod rhannau eraill o ddiddordeb sydd heb eu darganfod eto gan nad oes mynediad iddynt ar hyn o bryd. Pan agorwyd y theatr, roedd ganddi ardd do a oedd wedi’i lleoli ar ben y siopau sydd drws nesaf i’r adeilad. Ym mis Ebrill 2008, cytunwyd y dylid ei chynnwys ar restr Cyngor Bro Morgannwg o drysorau’r sir, ac mae hi hefyd wedi’i chynnwys ar restr yr Ymddiriedolaeth Theatrau yn Llundain o adeiladau sydd mewn perygl.
Yn hytrach nag awgrymu y dylid adnewyddu’r adeilad neu newid sut y mae’n cael ei ddefnyddio, credwn fod gwerth treftadaeth yr adeilad, sef cyfnod o 100 mlynedd, yn rhywbeth sylweddol y gellir ei fynegi drwy adrodd ei hanes. Byddai cynnal yr adeilad yn rhoi cyfle i’r gymuned werthfawrogi ac ymfalchïo yn yr hanes hwn, a hynny wrth ddefnyddio’r adnoddau y gallai’r adeilad eu darparu.